Mae disgwyl y bydd David Gauke, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, yn ymddiswyddo pe bai Boris Johnson yn ennill y ras i fod yn brif weinidog nesaf Prydain.

Fe fu yn ei swydd ers i Theresa May ddod i rym yn 2016, ond mae’n dweud na fyddai’n gallu aros yn y Cabinet pe bai’r prif weinidog newydd yn mynd am Brexit heb gytundeb.

Mae’n dweud wrth y Sunday Times heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 21) y byddai ymadawiad o’r fath yn arwain at “gywilydd” cenedlaethol.

Ac mae’r papur newydd hwnnw hefyd yn dweud y byddai chwech aelod seneddol Ceidwadol yn symud at y Democratiaid Rhyddfrydol pe bai Boris Johnson yn trechu Jeremy Hunt yn y ras i olynu Theresa May.

Byddai hynny’n golygu na fyddai ganddo fe fwyafrif yn San Steffan.

Bydd y ras yn dod i ben yfory (dydd Llun, Gorffennaf 22), a’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi’r diwrnod canlynol.

Cytundeb ar y gweill?

Mae adroddiadau bod nifer o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn awyddus i ddod i gytundeb ar gyfer Brexit, a’u bod nhw wedi cysylltu â Boris Johnson mewn ymgais i atal ymadawiad heb gytundeb, yn ôl y Sunday Times.

Mae lle i gredu bod swyddogion o Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd i gyd wedi cysylltu â’i dîm gyda’r bwriad o gynnig cytundeb.

Mae’r Canghellor Philip Hammond yn dweud y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i atal Brexit heb gytundeb, tra bod Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, yn galw ar y Ceidwadwyr i gefnogi pwy bynnag sy’n ennill y ras i fod yn brif weinidog.