Mae ymgyrchwyr yn ymgasglu yn San Steffan i orymdeithio dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac yn erbnyn y tebygolrwydd mai Boris Johnson fydd prif weinidog nesaf gwledydd Prydain.

Fel rhan o’r orymdaith ‘Na i Boris, Ie dros Ewrop’, mae gorymdeithwyr yn cario balwn o Boris Johnson drwy Parliament Square, yn adlais o’r un a gafodd ei greu o Donald Trump yn yr un lleoliad yn y gorffennol.

Mae’r balwn yn gwisgo crys T sy’n dwyn y geiriau ‘Brexit bus’, sy’n cyfeirio at y celwydd honedig am fuddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd yn sgil Brexit.

Mae modelau o Nigel Farage a Jeremy Hunt hefyd yn cael eu cario ar yr orymdaith.

Mae eraill yn cario baneri ac arwyddion yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd disgwyl i nifer o siaradwyr annerch y dorf yn ystod y prynhawn, gan gynnwys y canwr Billy Bragg.