Mae prisiau dros 1,000 o nwyddau Tesco wedi cynyddu dros y pythefnos diwethaf, er i’r cwmni addo codi llai er mwyn cystadlu gydag Aldi a Lidl.
Yn ôl dogfennau sydd wedi dod i law PA (Press Association) mi gynyddodd prisiau’r archfarchnad gan 11% ar gyfartaledd yn ystod pythefnos cyntaf mis Gorffennaf.
Gan ymateb i’r ffigurau, mae ffynonellau o’r diwydiant wedi dweud bod prisiau yn codi a gostwng yn rheolaidd, ond bod codiad prisiau Tesco yn anarferol o uchel.
Mae Tesco wedi ymateb trwy ddweud mai pwysau allanol sy’n gyfrifol am y codiad, a thrwy ddadlau eu bod wedi’u gorfodi i godi prisiau.
Ymateb Tesco
“Dros y misoedd diwethaf, mae pwysau costau wedi parhau i gael dylanwad ar y farchnad,” meddai llefarydd ar ran Tesco.
“Rydym wedi gweithio’n galed i weithio yn erbyn y pwysau yma, ac i amddiffyn ein cwsmeriaid cyn hired ag sy’n bosib.
“Ond, yn debyg i’r farchnad ehangach, rydym wedi gorfod adlewyrchu’r pwysau yma ym mhrisiau rhai o’n nwyddau.”
Costau’n cynyddu
- Pecyn â phump banana: 90c i £1 (cynnydd 11%)
- Pasta: 50c i 65c (30%)
- Jam mefus: bellach yn 92c (23%)
- Letysen: bellach yn 60c (17%)
- Pys melyn Merchant Gourmet: £1.42 i £3.60 (152%)