Mae arbenigwyr yn disgwyl i filiynau o ieir bach tramor ymweld â’r Deyrnas Unedig dros yr haf.  

Math arbennig o bili-pala yw’r rhywogaeth yma, a thua unwaith pob degawd maen nhw’n heidio o’r cyfandir at wledydd Prydain.

Digwyddodd hyn ddiwethaf yn 2008 pan ddaeth 11 miliwn o ieir bach tramor – neu loÿnnod yr ysgall – i’r Deyrnas Unedig.

Er mwyn cael syniad o faint o loÿnnod fydd yn ymweld dros yr haf, mi fydd elusen Butterfly Conservation yn cynnal y Big Butterfly Count.

“Ffenomen pili-palaod”

Un o’r rheiny sy’n annog y cyhoedd i gyfrannu at y Big Butterfly Count yw’r naturiaethwr, Chris Packham.

“Mae arwyddion ledled Ewrop yn addawol, a gall hynny olygu bod 2019 yn flwyddyn dda iawn i’r iâr fach dramor,” meddai. “Mae niferoedd uchel eisoes wedi’u cofnodi ledled y Deyrnas Unedig.

“Gall y pili-pala ymddangos lle bynnag felly plîs cymerwch ran yn y Big Butterfly Count a chadwch eich llygaid yn agored.

“Efallai mi brofwch ffenomen pili-palaod sydd ond yn digwydd unwaith pob degawd.”