Mae disgwyl i frawd hunan-fomiwr Arena Manceinion bledio’n ddieuog i gynorthwyo i lofruddio 22 o bobol yn 2017.

Cafodd Hashem Abedi, 22, ei estraddodi o Libya i sefyll ei brawf, ac fe aeth gerbron ynadon Westminster heddiw, wrth i enwau’r meirw gael eu darllen yn uchel.

Mae’n gwadu 22 cyhuddiad o lofruddio, un cyhuddiad o geisio llofruddio nifer o bobol eraill a chyhuddiad arall o gynllwynio i achosi ffrwydradau, ond dydy e ddim wedi cyflwyno ple ffurfiol hyd yn hyn.

Fe wnaeth Salman Abedi ffrwydro fest wrth i bobol adael gig Ariana Grande yn y neuadd, ac fe gafodd 260 o bobol eu hanafu’n ddifrifol.

Clywodd y llys fod hyd at 600 o bobol wedi dweud iddyn nhw gael eu niweidio’n seicolegol gan y digwyddiad.

Cefndir

Fe fu Hashem Abedi yn y carchar ar ei ben ei hun mewn cell yn Libya ers iddo gael ei arestio ddwy flynedd yn ôl.

Clywodd y llys honiadau ei fod e wedi cael ei arteithio a’i orfodi i gyffesu trwy lofnodi dogfen 40 tudalen.

Wnaeth e ddim gwrthod cael ei estraddodi am ei fod e eisiau dychwelyd i wledydd Prydain i fynnu ei fod yn ddieuog, meddai ei gyfreithiwr.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ac fe fydd gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Rhydychen ddydd Llun (Gorffennaf 22), a gwrandawiad eto fyth yn yr Old Bailey ar Orffennaf 30.

Mae’r cwest i’r marwolaethau wedi’u gohirio am y tro.