Mae sylfaenydd y grŵp ymgyrchu o blaid Brexit, BeLeave, yn dechrau ei apêl yn erbyn dirwy werth £20,000 gan y Comisiwn Etholiadol.

Cafodd Darren Grimes ei ddirwyo yn dilyn honiadau ei fod wedi torri rheolau gwario yn ystod ymgyrch refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Fe blediodd ei fod yn “hollol ddiniwed” o wneud datganiadau ffug mewn perthynas â rhodd o £680,000 i’w grŵp ieuenctid BeLeave o’r brif Ymgyrch Gadael.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn dweud fod BeLeave “wedi gwario mwy na £675,000 gyda’r cwmni o Ganada, Aggregate IQ, o gyda’r Ymgyrch Gadael,” a ddylai wedi cael ei ddatgan.

Aeth yr arian a chyfanswm gwariant Ymgyrch Leave bron I £500,000 dros y terfyn cyfreithiol o £7m.

Mae Darren Grimes wedi codi £93,956 drwy ymgyrch ar-lein i apelio yn erbyn dyfarniad y comisiwn, sy’n dechrau yn y Llys Sirol yng Nghanol Llundain fore heddiw (Dydd Llun, Gorffennaf 15).