Mae’r ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol – Boris Johnson a Jeremy Hunt – yn mynd ben i ben am y tro olaf heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 15), wrth i’r ras gyrraedd ei chymal olaf.

Fe fydd y ddau yn cymryd rhan mewn dadl sy’n cael ei chynnal gan bapur newydd The Sun a talkRadio o flaen cynulleidfa fyw yn Llundain wrth i’r ddau geisio olynu Theresa May.

Boris Johnson yw’r ffefryn i gymryd yr awenau yn Stryd Downing ar Orffennaf 24 ond mae cefnogwyr Jeremy Hunt yn credu ei fod yntau’n ennill tir.

Roedd disgwyl y byddai papurau pleidleisio’r 180,000 o aelodau’r blaid wedi dychwelyd erbyn hyn ond mae adroddiadau yn dweud fod y pleidleisiau yn dod mewn yn araf.

Cafodd y ddadl ddiwethaf ar ITV ei ddilyn gyda llysgennad yr Unol Daleithiau i Wledydd Prydain, Kim Darroch, yn gadael ei swydd ar ôl iddo feirniadu’r arlywydd Donald Trump.

Roedd cyhuddiadau bod Boris Johnson wedi methu yn rhoi cefnogaeth i’r llysgennad yn y ddadl, oedd i’r gwrthwyneb a chefnogaeth Jeremy Hunt.