Torrodd Lewis Hamilton record wrth ennill Grand Prix Prydain am y chweched tro yn Silverstone heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 14).

Mae ei fuddugoliaeth yn mynd â’r Sais y tu hwnt i Alain Prost a Jim Clark, oedd wedi ennill y ras bum gwaith yr un.

Erbyn diwedd y ras, roedd e 25 eiliad ar y blaen i Valtteri Bottas, ei gyd-yrrwr yn nhîm Mercedes.

Dyma’i seithfed buddugoliaeth mewn deg ras eleni, a buddugoliaeth rhif 80 ei yrfa.

Mae ganddo fe flaenoriaeth o 39 o bwyntiau hanner ffordd drwy’r bencampwriaeth, wrth iddo fynd am chweched teitl y byd.

Dyma’i berfformiad gorau erioed yn hanner cynta’r tymor.

Wrth i’r ras ddirwyn i ben ar ôl cyfnod y tu ôl i’r car diogelwch, fe gurodd Lewis Hamilton record y ras ar gyfer y gylchred olaf.

Charles Lerclerc o dîm Ferrari oedd yn y trydydd safle, ond fe allai Max Verstappen fod wedi cipio lle ar y podiwm oni bai bod Sebastian Vettel wedi taro yn ei erbyn a’i wthio ar y trac.