Mae Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar, wedi rhybuddio y bydd Prydain yn wynebu degawdau o ddirywiad economaidd yn sgil Brexit, pwy bynnag fydd y prif weinidog newydd.

“Dw i’n credu mai un o anawsterau Prydain yw eu bod yn ei chael yn anodd dygymod â’r ffaith nad ydyn nhw, fel economi a gwlad, mor bwysig yn y byd bellach,” meddai.

“Fel gwlad sydd wedi gadael Ymerodraeth Prydain, dylai Iwerddon geisio deall cymhelliad cenedlaetholgar Brexit yn well.

“Fodd bynnag, fe fydd prif weinidog newydd Prydain, boed yn Boris Johnson neu Jeremy Hunt, yn wynebu’r gwir am Brexit unwaith y bydd yn ei swydd.

“O ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, byddai Prydain yn disgyn i ddirywiad economaidd cymharol, gyda Ffrainc, ac ymhen amser, llawer o wledydd Asia, yn achub y blaen arni.”

Trafodaethau

Er bod llywodraeth Iwerddon yn disgwyl siarad yn fuan gyda’r prif weinidog newydd, fe fydd unrhyw drafodaethau ar y berthynas rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn digwydd gyda’r Undeb Ewropeaidd ac nid gyda Gweriniaeth Iwerddon.

Awgrymodd Leo Varadkar y byddai modd osgoi’r angen am ffin galed â Gogledd Iwerddon pe bai Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn cytuno i drin yr holl ynys fel uned ar gyfer rheolau diogelwch amaethyddol a bwyd ar ôl Brexit.

Er mwyn i hyn ddigwydd, meddai, byddai’n rhaid i Ogledd Iwerddon gael ei drin yn wahanol i weddill Prydain – rhywbeth a fyddai’n debygol o gael ei wrthwynebu’n gryf gan y DUP.

Yn y cyfamser, wrth ymweld â Dulyn ddoe, dywedodd yr AS Ceidwadol a’r cyn-dwrnai cyffredinol Dominic Grieve y byddai Brexit heb gytundeb yn gwneud argyfwng gwleidyddol ynghylch dyfodol Gogledd Iwerddon yn fwy tebygol.

“Byddai’n peryglu statws y Gogledd o fewn y Deyrnas Unedig o dan Gytundeb Belfast,” meddai.