Mae Boris Johnson yn dweud mai’r “embaras” a gafodd yn ystod y ddadl deledu yn erbyn Jeremy Hunt neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 9) yw’r rheswm pam ei fod yn gyndyn o gymryd rhan ynddyn nhw.

Aeth e ben-ben â Jeremy Hunt yn y ddadl gyntaf rhwng y ddau sydd yn y ras i arwain y Ceidwadwyr ac i olynu Theresa May yn brif weinidog Prydain.

Fe fu’n rhaid i’r cyn-Ysgrifennydd Tramor amddiffyn ei gynlluniau i lacio trethi i’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf.

Cafodd ei gyhuddo gan ei wrthwynebydd o gyfleu’r neges mai “plaid y bobol gyfoethog” yw’r Ceidwadwyr.

Ond roedd yn mynnu mai helpu pobol ar y cyflogau isaf mae ei bolisi, a fydd yn golygu bod pobol sy’n ennill dros £50,000 o gyflog yn talu llai o drethi.

Serch hynny, ei fwriad yw gostwng y trothwy ar gyfer talu Yswiriant Gwladol er mwyn helpu pobol sy’n ennill cyflogau isel.

“Dyma un o’r rhesymau pam fod y dadleuon mewnol hyn yn destun cymaint o embaras,” meddai yn ystod y darllediad.

“Ond dwyt ti ddim wedi gwneud yr un tan fod pobol wedi pleidleisio,” meddai Jeremy Hunt wrth daro’n ôl.

“Dw i wedi treulio fy mywyd yn ceisio perswadio pobol nad plaid y bobol gyfoethog ydyn ni,” meddai Jeremy Hunt wedyn.

“Ond os yw dy doriadau trethi cyntaf ar gyfer y rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf, yna dyna’r neges anghywir.”

Helynt pleidleisio

Mae aelodau’r Blaid Geidwadol eisoes wedi derbyn eu papurau pleidleisio yn y post, ond fe fu Jeremy Hunt yn ymbil arnyn nhw i beidio â phleidleisio hyd nes iddyn nhw weld y ddadl deledu.

Bydd y bleidlais yn cau ar Orffennaf 22, ac enw’r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi’r diwrnod canlynol.

Fe fydd y prif weinidog newydd yn dod i rym ar Orffennaf 24, ond mae Jeremy Hunt yn dadlau “oherwydd nad yw Boris fyth yn ateb y cwestiwn, does dim syniad gyda ni sut beth fyddai arweinyddiaeth Boris”.

Brexit

Mae’r ddau hefyd yn anghydweld ynghylch Brexit, gyda Jeremy Hunt yn rhybuddio nad yw “optimistiaeth ddall” yn ddigon i sicrhau cytundeb i adael erbyn Hydref 31.

“Mae angen arweinyddiaeth sydd yn mynd i’n tywys ni drwy argyfwng cyfansoddiadol mawr a gwneud llwyddiant mawr o Brexit, ac mae hynny’n golygu bod yn onest â phobol am yr heriau,” meddai.

Mae hefyd yn rhybuddio na ddylid dirwyn y Senedd i ben dros dro er mwyn sicrhau cytundeb, ond mae Boris Johnson yn gwrthod wfftio’r posibilrwydd.

Rhybuddiodd Jeremy Hunt fod dirwyn y senedd i ben y tro diwethaf wedi arwain at ryfel cartref.

Ac fe wnaeth Jeremy Hunt gyhuddo Boris Johnson o roi ei yrfa wleidyddol ei hun o flaen mater mor bwysig â Brexit, ar ôl iddo wrthod cadarnhau y byddai’n ymddiswyddo pe na bai’n sicrhau ymadawiad erbyn Hydref 31.