Mae aelodau seneddol wedi pleidleisio o blaid cyfreithlonni priodasau o’r un rhyw a mynediad i erthyliadau os na ddaw cytundeb i rannu grym yn Stormont yng Ngogledd Iwerddon

Mae priodasau o’r un rhyw yn anghyfreithlon ar hyn o bryd, a dim ond mewn achosion brys mae modd cael erthyliad, lle mae bywyd neu iechyd y fam mewn perygl.

Fe fydd y mesurau newydd yn dod i rym ym mis Hydref os na fydd trefn yn Stormont erbyn hynny.

Daw’r bleidlais yn San Steffan ddwy flynedd ar ôl i’r cytundeb i rannu grym datganoledig ddod i ben.

Anghydweld

Mae priodasau o’r un rhyw ac erthyliadau’n destun anghydweld mawr rhwng y DUP a Sinn Fein.

Dywed y DUP mai uno dyn a dynes yw diben priodas, ac y gall cyplau o’r un rhyw ddewis partneriaethau sifil.

Ond mae Sinn Fein o’r farn fod newid y gyfraith yn fater o gydraddoldeb a hawliau dynol sylfaenol.

Mae ymgyrchwyr yn croesawu’r newyddion bellach fod San Steffan wedi camu i mewn i lacio’r gyfraith ar y ddau fater dadleuol.