Fe fyddai arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn “anfodlon iawn” rhoi estyniad arall i Brexit, yn ôl Prif Weinidog Iwerddon.

Fe rybuddiodd Leo Varadkar bod llawer o wledydd Ewrop yn teimlo’n rhwystredig iawn oherwydd yr estyniadau parhaus i’r broses ond nid oedd yn diystyru’r posibilrwydd yn gyfan gwbl.

Daw’r sylw yn dilyn rhybudd Gweinidog Tramor Iwerddon, Simon Coveney, bod Brexit heb gytundeb yn debygol iawn.

Mae Llywodraeth Iwerddon yn cyhoeddi cynllun newydd ar ei baratoadau ar gyfer Brexit fory (dydd Mawrth, Gorffennaf 9) wrth ddisgwyl am ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.

“Byddai llawer o amharodrwydd ymysg prif weinidogion Ewrop i ganiatáu estyniad arall y tu hwnt i Hydref 31,” meddai Leo Varadkar.

“Yn sicr, ni fyddem yn ei ddiystyru ac o safbwynt Iwerddon byddem yn barod i roi estyniad arall i wledydd Prydain.

“Ond rwy’n credu bod llawer o wledydd eraill Ewrop wedi mynd yn rhwystredig iawn gyda’r estyniadau parhaus, felly pe bai estyniad arall byddai’n rhaid i hynny fod am reswm penodol.”