Gallai ennill mwyafrif yn Holyrood neu gynyddu eu presenoldeb yn San Steffan fod yn ddigon i’r SNP fwrw ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth, yn ôl aelodau blaenllaw’r blaid.

Y gred yw y gallai’r blaid wthio am bleidlais erbyn 2020, ac mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban eisoes wedi dweud ei bod hi’n ffafrio cynnal pleidlais o’r newydd yn ail hanner y flwyddyn nesaf.

Mae Boris Johnson a Jeremy Hunt, y ddau sy’n brwydro i ddod yn brif weinidog nesaf gwledydd Prydain, eisoes wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu ail refferendwm.

Cynnig

Ond mae’r SNP yn bwriadu cyflwyno cynnig i’w drafod yng nghynhadledd aeaf y blaid ym mis Hydref.

Mae’n galw am ail refferendwm erbyn hydref 2020 a phe bai Llywodraeth Prydain yn ei wrthwynebu, fe allen nhw fwrw ymlaen gan fynnu bod ganddyn nhw fandad i ddechrau trafodaethau.

“Mae pobol yr Alban wedi cael eu hanwybyddu’n gyson gan Lywodraeth y DU,” meddai Christopher McEleny, arweinydd Cyngor Inverclyde, un o ddau sy’n cyflwyno’r cynnig.

“Rydym am gynnal refferendwm i roi’r dewis i bobol rhwng dod yn wlad annibynnol gyffredin neu aros yn rhan o DU sydd o hyd yn gorfodi polisïau a llywodraethau ar yr Alban rydym yn eu gwrthod.”

Ond mae’r Ceidwadwyr yn yr Alban yn mynnu o hyd “nad oes cefnogaeth ymhlith Albanwyr ar gyfer refferendwm annibyniaeth arall”.