Mae gweinyddiaeth Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn “unigryw o gamweithredol ac analluog”, yn ôl dogfen llysgennad y Deyrnas Unedig yn Washington, sydd wedi cael ei rhyddhau i’r wasg.

Mae Syr Kim Darroch wedi bod yn asesu’r llywodraeth o 2017 hyd heddiw, ac fe allai’r ddogfen beri cryn embaras i’r Swyddfa Dramor, sydd wedi amddiffyn ei sylwadau.

Mae’r ddogfen, sydd wedi’i gweld gan y Mail on Sunday, yn dweud bod angen cyfathrebu mewn modd “syml… os nad yn blwmp ac yn blaen” â Donald Trump.

Mae’n darogan na fydd y llywodraeth fyth yn “dod yn fwy normal, llai camweithredol, llai anrhagweladwy, llai rhanedig, llai trwsgl ac analluog yn ddiplomataidd”.

Ac mae’n mynd mor bell ag awgrymu na fydd y weinyddiaeth “fyth yn edrych yn alluog”.

Iran a materion eraill

Wrth drafod ei ymweliad diweddar â Lloegr, dywed y ddogfen fod Donald Trump wedi cael ei “ddallu” gan rwysg yr achlysur.

Ac mae’n cwestiynu ei bolisi ar Iran, sy’n cael ei ddisgrifio fel un “anhrefnus”, a’i reswm dros ddod â chyrchoedd awyr i ben yn Tehran.

Mae Donald Trump yn dweud iddo wneud hynny er mwyn osgoi anafu nifer fawr o bobol, ond mae’r ddogfen yn cwestiynu’r rheswm hwnnw, gan awgrymu ei fod yn ymwneud ag addewid blaenorol i beidio ag ymyrryd mewn materion tramor a’i bryder am golli’r etholiad nesaf.

Mae’r Swyddfa Dramor yn mynnu fod ganddyn nhw berthynas dda â’r Unol Daleithiau, er y sylwadau sydd wedi’u gwneud yn y ddogfen.