Mae sylwadau Boris Johnson am fenywod Mwslimaidd wedi cael eu crybwyll yn ystod hystings ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn Nottingham.

Mae e’n herio Jeremy Hunt am yr arweinyddiaeth ac am swydd prif weinidog Prydain, gyda’r enillydd yn olynu Theresa May.

Cafodd y cyn-Ysgrifennydd Tramor ei holi sut allai gynrychioli grwpiau lleifrifol ar ôl cymharu menywod Mwslimaidd â blychau post, am eu bod yn gwisgo penwisg sydd yn dangos eu llygaid yn unig.

Cafodd ei sylwadau eu cyhoeddi yn ei golofn yn The Daily Telegraph y llynedd, ac mae e hefyd dan y lach am ei sylwadau am bobol groenddu, gan ddisgrifio eu “gwên fel melon dŵr” a’u galw nhw’n “piccaninnies“, sy’n gyfeiriad at blant croenddu.

Amddiffyn ei sylwadau

Wrth amddiffyn y sylwdau, dywed Boris Johnson ei fod yn “amddiffyniad cryf, rhyddfrydol o hawl y fenyw i wisgo’r burka“, ac mai Llundain oedd “y ddinas fwyaf amrywiol ar wyneb y ddaear” pan oedd e’n Faer.

Mae’n dweud ei fod am weld “diwylliant Prydeing lle’r ydym yn gwerthfawrogi’n gilydd ac yn parchu’n gilydd”.

Mae hefyd yn dweud bod cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd yn uchel ar ei agenda.

Dadl deledu

Yn y cyfamser, mae Jeremy Hunt yn cydnabod mai ei wrthwynebydd yw’r ffefryn i ennill y ras arweinyddol, ond mae’n annog pobol i aros tan ar ôl y ddadl a’r cyfweliadau teledu’r wythnos nesaf cyn bwrw eu pleidlais.

Fe fydd ITV yn darlledu’r ddadl gyntaf nos Fawrth, a’r ddau arweinydd yn cael eu cyfweld gan y BBC nos Wener.