Mae un o brif blismonesau gwledydd Prydain wedi cyhuddo Heddlu Llundain o wahaniaethu yn ei herbyn ar sail ei hil.

Aeth Parm Sandhu at dribiwnlys, gan honni iddi golli allan ar ddyrchafiad a chyfleoedd gwaith eraill oherwydd ei hil a’i rhyw.

Mae Heddlu Llundain yn gwrthod gwneud sylw.

Cefndir

Roedd Parm Sandhu yn destun ymchwiliad y llynedd, a chafodd hi ei chyhuddo o dorri rheolau’n ymwneud ag anrhydeddau.

Cafodd ei dyletswyddau eu cwtogi, ond daeth ymchwiliad i’r casgliad fis diwethaf nad oedd hi wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Derbyniodd hi wobr sector cyhoeddus yn sgil ei gwaith yn dilyn ymosodiadau Gorffennaf 7, ac roedd hi’n cael ei chyhuddo o annog cydweithwyr i bleidleisio drosti er mwyn derbyn Medal Heddlu’r Frenhines.

Dydy Parm Sandhu ddim wedi gwneud sylw.