Mae 13 o bobol nawr wedi cael eu lladd gan haint Grŵp A Streptococcus yn Essex.

Roedd penaethiaid iechyd wedi adrodd am ddeuddeg marwolaeth ynghynt, ond mae achos ychwanegol nawr wedi ei gofnodi.

Mae 34 o bobol wedi dal yr haint hyd yn hyn, ac mae 13 wedi marw, meddai Grŵp Comisiynu Clinigol Canolbarth Essex y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl penaethiaid iechyd mae’r haint wedi deillio o Braintree ac wedi lledaenu i ardaloedd Chelmsford a Maldon yn Essex.

Mae’r mwyafrif o rheiny sydd wedi cael eu heffeithio yn henoed oedd yn derbyn triniaeth am anafiadau, gyda rhai mewn cartrefi henoed ond y mwyafrif yn eu cartrefi.

Mae’r bacteria yn cael ei ddarganfod yn y gwddf ac ar y croen ac fe all bobol fod a hi heb ddangos unrhyw symptomau.