Mae ymgeisydd am arweinyddiaeth y Torïaid, yn dweud ei fod yn addo osgoi trethi uwch ar alcohol, tybaco a siwgr, pe bai’n cael ei ethol.

Yn ôl Boris Johnson mae’n mynd i adolygu’r trethi hynny a gofyn a ydyn nhw’n effeithio’r bobol ar incwm isel yn annheg.

Mae’r Tori hefyd yn dweud na fyddai’n cyflwyno trethi newydd tan mae’r adolygiad wedi cael ei gwblhau, werth iddo weld Brexit fel cyfle i archwilio polisïau treth.

“Mae’r cynnig diweddar ar gyfer treth ar ysgytlaeth yn ymddangos i mi un sydd am effeithio rhywun sydd ddim yn gallu ei fforddio,” meddai Boris Johnson.

“Os ydyn ni am i bobol golli pwysau a byw bywydau iachach, dylem eu hannog i gerdded, beicio a gwneud mwy o ymarfer corff yn gyffredinol.

“Yn hytrach na threthu pobol, dylem edrych ar ba mor effeithiol yw’r ‘trethi pechod’ fel y’u gelwir, ac a ydyn nhw yn newid ymddygiad mewn gwirionedd.

“Unwaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, bydd gennym gyfle hanesyddol i newid y ffordd y mae gwleidyddiaeth yn cael ei wneud yn y wlad hon.”