Mae mwy o bobol yn ordew nag sy’n ysmygu yng ngwledydd Prydain, yn ôl rhybudd gan eluaen Cancer Research UK.

Mae bod dros bwysau yn achosi mwy o ganser nag y mae sigaréts.

Yn ôl yr ymchwil mae pobol ordew yn fwy niferus na’r ysmygwyr o ddau i un ac mae’r elusen yn dweud fod angen gwneud mwy i gael pobol i golli pwysau.

Ysmygu yw achos canser mwyaf y DU y gellir ei atal o hyd ac mae’n wynebu risg llawer uwch o’r clefyd na gordewdra.

Ond mae gordewdra yn achosi 13 math o ganser ac mae’n waeth na ysmygu fel sbardun i bedwar o’r mathau yma.

Mae’r ymchwil yn dangos bod gordewdra yn achosi tua 1,9000 yn fwy o achosion o ganser y coluddyn nag ysmygu yng Ngwledydd Prydain bob blwyddyn

Mae hefyd yn achosi 1,400 yn fwy o achosion o ganser yr arennau, 460 yn fwy o achosion o ganser yr ofari a 180 o achosion o ganser yr iau.

Yn ôl data cenedlaethol Mae data cenedlaethol mae tua un o bob tri oedolyn gwledydd Prydain yn ordew, tra bod tua thraean yn ordew.