Mae amgylcheddwyr wedi dod o hyd i wenynen brin mewn safle sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer hybu bywyd gwyllt.

Cafodd y ‘Gardwenynen Feinllais’ ei chanfod ar dir amaethyddol yn Swydd Gaint sydd wedi cael ei drawsnewid i fod yn ddôl o flodau gwylltion.

Mae’r wenynen fach, sydd ond yn gentimetr o hyd, yn ffynnu mewn ardaloedd sy’n llawn blodau, ac yn hoff o ymgartrefu mewn safleoedd sydd â phorfeydd hirion.

Mae poblogaeth y wenynen yng ngwledydd Prydain wedi dirywio dros y blynyddoedd wrth i borfeydd ddiflannu, ond mae amgylcheddwyr yn ymwybodol o’i phresenoldeb mewn rhai safleoedd yn Lloegr a Chymru, gan gynnwys llwybr yr arfordir ger Baglan.

Mae ardal Victory Wood yn Swydd Gaint, sydd yng ngofal Coed Cadw, bellach wedi ei hychwanegu at restr y safleoedd hynny, ac mae amgylcheddwyr wedi disgrifio’r canfyddiad diweddaraf fel un “mawr”.

“Rydyn ni wedi bod yn credu ers tro bod y wenynen yn bodoli yn y safle yn dilyn cofnod tua blwyddyn yn ôl,” meddai Claire Inglis, un o reolwyr Victory Wood a ddaeth o hyd i’r ‘Gardwenynen Feinllais’.

“Ond mae ei gweld a’m llygaid fy hun yn brofiad gwych.”