Mae llai a llai o bobol wedi prynu ceir disel yng ngwledydd Prydain dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigurau newydd o’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Cafodd £6,445bn eu gwerthu yn 2018, boed ar gyfer defnydd gartref neu i allforio, o’i gymharu â £9,758bn yn 2017 – felly mae nifer y ceir a werthwyd wedi disgyn o dros draean.

Mae gwerthiant ceir disel prisiau canolig wedi disgyn 34.3% – o 535,000 yn 2017 i 352,000 yn 2018.

Yn y cyfamser mae gwerthiant ceir petrol wedi codi o 867,000 o geir yn 2016 i filiwn yn 2018, sy’n gynnydd o 22.3%.

“Roedd gweithgynhyrchu ceir yn gyffredinol ychydig yn is. Fodd bynnag, mae ein ffigurau newydd yn dangos i ba raddau y mae’r diwydiant ceir yn symud i ffwrdd o gerbydau disel, ac yn hytrach yn rhoi pwyslais llawer mwy a mwy o adnoddau hybrid a thrydan,” meddai ystadegydd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, Jon Gough.