Mae Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol gwledydd Prydain, Liam Fox, yn dweud fod annibyniaeth yr Alban a galwadau am ail-uno Iwerddon yn “fygythiadau go iawn” os bydd Brexit heb gytundeb.

Cafodd Liam Fox ei holi ar raglen Today ar BBC Radio 4 am oblygiadau ymadawiad caled o’r Undeb Ewropeaidd ar annibyniaeth yr Alban ac ail-uno Gogledd Iwerddon ac Iwerddon.

Mae’n cefngogi’r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt i olynu Theresa May.

Mae Jeremy Hunt a Boris Johnson – ei wrthwnebydd yn y ras i ddod yn Brif Weinidog gwledydd Prydain – wedi dweud eu bod yn barod i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb os nad oes modd dod i gytundeb newydd.

“Rydyn ni’n gwybod eu bod yn fygythiadau go iawn, does dim pwynt esgus nad ydyn nhw’n bodoli,” meddai Liam Fox.

“Ac felly mae’n rhaid i ni roi manylion yr hyn y byddai Brexit heb gytundeb yn ei olygu, gan gynnwys sut rydym yn diogelu diwydiannau hanfodol fel pysgota a ffermio a sut rydym yn delio â busnesau bach.

“Dydy hi ddim yn ddigon da i ddweud nad ydyn ni am gael cytundeb; mae angen i ni baratoi am y peth, dyna beth yw swyddogaeth y Llywodraeth.”