Mae Jo Swinson, un o ddau ymgeisydd i fod yn arweinydd nesa’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn dweud y gallai’r blaid ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae dirprwy arweinydd y blaid yn herio Ed Davey yn y ras i olynu Syr Vince Cable.

“Ydw,” meddai, pan gafodd ei holi ar raglen Sophy Ridge on Sunday a oedd hi’n hyderus y gallai hi ddod yn brif weinidog Prydain.

“Dw i’n credu bod ein gwleidyddiaeth yn danllyd ar hyn o bryd, dw i’n credu bod darogan yn gêm ffôl mewn gwleidyddiaeth.

“Dw i ddim am osod cyfyngiadau ar ein huchelgais ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol oherwydd mae angen dewis amgen, rhyddfrydol ar ein gwlad.”

Denu gwleidyddion i’r blaid

Ac mae hi’n dweud ei bod hi’n gobeithio denu rhagor o wleidyddion o bleidiau eraill, ar ôl i Chuka Umunna ymuno o blaid Change UK.

“Dw i yn cael sgyrsiau, a sgyrsiau preifat ydyn nhw.”

Mae hi’n dweud ei bod hi’n agored i gydweithio â phleidiau eraill, a bod Pleidlais y Bobol yn enghraifft o’r cydweithio hwnnw.

Ac mae’r blaid yn ystyried peidio â sefyll mewn etholaethau lle mae ymgeiswyr o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.