Mae Olly Robbins, prif drafodwr Brexit, yn camu o’i swydd dros yr haf.

Mae lle i gredu y bydd yn gadael ei swydd yn fuan ar ôl i olynydd Theresa May yn brif weinidog ddechrau yn ei swydd yntau fis nesaf.

Boris Johnson yw’r ceffyl blaen o hyd, gyda Jeremy Hunt ar ei hôl hi yn y ras gyda chwarter y bleidlais, yn ôl pôl piniwn Opinium.

Mae Theresa May ar ei ffordd i Frwsel ar gyfer uwchgynhadledd Cyngor Ewrop, lle bydd swyddi penaethiaid Ewrop yn cael eu trafod.

Bydd hi’n camu o’r neilltu’n ffurfiol ar Orffennaf 24.

Daw ymadawiad Olly Robbins ar ôl i Tom Shinner, cyfarwyddwr polisi adran Brexit, a Karen Wheeler, cyfarwyddwr cyffredinol Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, gyhoeddi eu bod hwythau hefyd am adael eu swyddi.