Mae’r rapiwr, Stormzy, wedi cael ei ganmol gan y gantores Adele a nifer fawr o bobol eraill ar ôl ei berfformiad yn brif artist Glastonbury – yr artist unigol, croenddu i wneud hynny.

Fe ganodd ar Lwyfan y Pyramid nos Wener gan wisgo fest atal trywanu wedi ei haddurno â baner Jac yr Undeb.

Roedd y dorf wedi dotio gyda pherfformiad y canwr 25 oed o Croydon, Llundain oedd yn bwerus a gwleidyddol wrth iddo dynnu sylw at epidemig troseddau cyllell prifddinas Lloegr.

“Fe roddaist barch i bawb a agorodd y drws i ti tra agoraist tithau ddrws enfawr dy hun,” meddai Adele.

Cafwyd negeseuon hefyd gan arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn a ddywedodd fod perfformiad Stormzy yn un “hanesyddol”.

Ychwanegodd Ed Sheeran fod Stormzy, neu Michael Omari, yn “ysbrydoliaeth i lawer”.

Daeth negeseuon cadarnhaol hefyd gan y rapiwr Drake, ei gariad Maya Jama, Wretch 32, y seren hip-hop Konan a Giggs yn ogystal ag AS Llafur Tottenham am i Stormzy samplo anerchiad a roddodd y gwleidydd am ddynion du a’r system gyfiawnder.