Mae 900 o swyddi yn y fantol ar ôl i’r cwmni bwyd a diodydd Kerry Foods gyhoeddi ei fod yn bwriadu cau ei ffatri yn Burton-on-Trent.

Dywedodd undeb Unite bod y penderfyniad yn “ergyd drom” i’r ardal ac mae wedi rhoi addewid y bydd yn gwneud popeth i helpu’r staff sydd wedi’u heffeithio gan y cyhoeddiad.

Maen nhw eisoes wedi bod mewn cysylltiad gyda’r bragwyr Molson Coors, un o gyflogwyr mawr eraill y dref, ynglŷn â swyddi posib.

Kerry Foods oedd cyflogwr mwyaf yr ardal.

“Mae hyn yn dorcalonnus i’r gweithlu, eu teuluoedd ac yn ergyd dros i’r economi leol,” meddai swyddog rhanbarthol Unite Rick Coyle.

Yn ol Unite daw’r cyhoeddiad ar ôl i Kerry Foods golli cytundeb i wneud prydau parod i archfarchnad Tesco.

Mae disgwyl i’r staff gwrdd â rheolwyr ddydd Gwener i drafod pecynnau diswyddo mwy sylweddol.