Mae pobol fwyaf dylanwadol gwledydd Prydain bum gwaith yn fwy tebygol o fod wedi astudio mewn ysgol breifat na gweddill y boblogaeth, mae ymchwil newydd yn awgrymu.

Dim ond 7% o bobol gwledydd Prydain sydd yn cael addysg breifat o gymharu â 39% o’r rheiny mewn swyddi dylanwadol, yn ôl data Ymddiriedolaeth Sutton.

Mae’r adroddiad wedi cael ei ryddhau ar drothwy penodi Prif Weinidog newydd – y ddau ymgeisydd yw Boris Johnson a Jeremy Hunt ac aeth y ddau i ysgolion preifat. Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar gefndiroedd mwy na 5,000 o bobol mewn 37 categori sy’n arwain gwledydd Prydain.

Mae’r rhain yn cynnwys gwleidyddiaeth, busnes, y cyfryngau, cyrff cyhoeddus, gweision sifil, llywodraeth leol, diwydiannau creadigol, menywod a chwaraeon.

Darganfyddiadau

Yn ôl yr ymchwil mae’r swyddi mwyaf dylanwadol gan y 7% oedd wedi mynychu ysgolion preifat a’r 1% sy’n graddio o Rydychen a Chaergrawnt.

Mae’n dangos fod mwyafrif o gyn-fyfyrwyr ysgolion preifat mewn swyddi ar draws nifer o gyrff cyhoeddus hefyd.

Mae 65% ohonyn nhw yn farnwyr, 59% yn ysgrifenyddion parhaol y gwasanaeth sifil, 57% yn Nhŷ’r Arglwyddi, a 52% yn ddiplomyddion y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad.

O’r 100 golygydd a darlledwyr newyddion mwyaf dylanwadol, aeth 43% i ysgolion sy’n talu ffioedd, a chafodd 44% o golofnwyr papurau newydd addysg breifat hefyd.

Ar ben hynny, mae bron i 39%, o Gabinet Llywodraeth gwledydd Prydain wedi cael addysg breifat.