Roedd ymdriniaeth Llywodraeth Prydain o genhedlaeth Windrush yn “warthus”, yn ôl Sadiq Khan, Maer Llundain.

Daw ei sylwadau wrth i Theresa May, prif weinidog Prydain, gyhoeddi hyd at £1m ar gyfer cofeb yng ngorsaf drenau Waterloo.

Ac mae Sadiq Khan wedi canmol “cyfraniad enfawr” cenhedlaeth Windrush, wrth iddo gyhoeddi’r cymorth ariannol i’w helpu i ymladd am eu statws mewnfudo trwy’r llysoedd.

Mae wedi addo neilltuo £370,000 i gefnogi’r sector cyngor mewnfudo yn Llundain o ganlyniad.

Mae Diwrnod Windrush heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 22) yn nodi 71 o flynyddoedd ers i’r “arloeswyr” cyntaf gyrraedd gwledydd Prydain o’r Caribî.

‘Cyfraniad enfawr’

“Mae cenhedlaeth Windrush wedi gwneud cyfraniad enfawr i’n gwlad ac i lwyddiant ein dinas wych, gan ddylanwadu ar bron bob agwedd ar ein diwylliant a bywyd cyfoes,” meddai Sadiq Khan.

“Mae arnon ni ddiolch mawr iddyn nhw.

“Ond mae’r ffordd warthus gafodd cenhedlaeth Windrush a’u teuluoedd eu trin gan y Llywodraeth yn sgandal genedlaethol.

“Mae eu profiadau’n amlwg yn dangos fod y broses fewnfudo’n un anodd i fynd o’i chwmpas, a bod difrifoldeb cynyddol yr amgylchfyd atgas yn rhoi’r Llundeinwyr sydd â’r hawl i fod yma mewn perygl o dlodi.”

Cefndir

Cyrhaeddodd oddeutu 500 o fewnfudwyr ddociau Tilbury yn Essex o’r Caribî ar long MV Empire Windrush yn 1948.

Cawson nhw wahoddiad i ddod i wledydd Prydain gan y llywodraeth, a hynny er mwyn ail-adeiladu Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Ond fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar fod nifer o’r genhedlaeth honno yng nghanol ffrae am eu statws mewnfudo, a’u bod wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar gam neu hyd yn oed wedi cael eu halltudio.

Mae eraill wedi colli eu hawliau i bensiwn a chymhorthdal arall.