Mae boss Banc Lloegr wedi dweud bod yna 150,000 o fusnesau ym Mhrydain sydd “ddim yn barod” am Brexit.

Yn siarad ar raglen Today BBC Radio 4, dywedodd Mark Carney mai dim ond 40% o fusnesau sydd wedi cwblhau’r gwaith papur angenrheidiol, o gymharu â 20% chwe mis yn ôl.

Mae’n anghytuno gyda honiadau ffefryn ras arweinyddiaeth y Torïaid, Boris Johnson, y gall gwledydd Prydain “sefyll yn stond” o dan reolau Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd, os bydd Brexit heb gytundeb.

 “Mae rheolau’r cytundeb yn glir – mae’r Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol Liam Fox wedi profi hyn yn y Senedd ac rwyf wedi siarad â chyfarwyddwr cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd ar y ffaith hon,” meddai Mark Carney.

“Mae’n gymwys os oes gennych gytundeb, ond ddim os ydych chi wedi penderfynu peidio â chael cytundeb neu wedi methu â dod i gytundeb.”

Yn ôl Mark Carney mae’n rhaid “bod yn glir” os yw’r Undeb Ewropeaidd yn penderfynu peidio â chymhwyso tariffau i wledydd Prydain –  byddai’n rhaid iddyn nhw hefyd ostwng tariffau ar gyfer yr Unol Daleithiau, Canada a gweddill y byd.