Mae gan blant “syniad gwyrdroëdig o’r hyn sy’n normal” oherwydd y delweddau ffug maen nhw’n eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dyna mae Ysgrifennydd Addysg Lloegr, Damian Hinds, wedi ei rhybuddio wrth iddo alw ar bobl ddylanwadol ar y we i gymryd cyfrifoldeb am y deunydd maen nhw’n ei gyhoeddi ar y we.

Wrth siarad ar ‘Ddiwrnod Stopio Bwlio ar y We’ mae wedi erfyn ar yr unigolion yma i fod yn onest â’u deunydd, ac i beidio â rhannu deunydd ffug.

Deunydd “gonest”

“Mae plant yn tyfu fyny gyda syniad gwyrdroëdig o’r hyn sy’n normal,” meddai, “ac mae hynny’n digwydd oherwydd bod cymaint o’r deunydd maen nhw’n ei weld ar gyfryngau cymdeithasol yn ffug…

“Dw i eisiau i bobol ddylanwadol ar y we feddwl am y deunydd maen nhw’n ei roi ar eu platfformau. Ydy eu deunydd yn onest? Ydy’r deunydd yn wir? Oes gormod o ffocws ar ddelwedd?” meddai.