Yr Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt fydd yn herio’i ragflaenydd Boris Johnson yn y bleidlais derfynol am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.

Dros y mis nesaf, fe fydd y 160,000 o aelodau’r blaid ledled Prydain yn cael penderfynu pa un o’r ddau fydd y Prif Weinidog nesaf.

Yn rownd olaf y pleidleisio ymhlith Aelodau Seneddol y pnawn yma, llwyddodd Jeremy Hunt i guro Michael Gove o ddwy bleidlais i’r ail safle.

Cafodd Jeremy Hunt 77 pleidlais o gymharu â 75 i Michael Gove, gyda Boris Johnson ymhell ar y blaen ar 160. Cafodd un bleidlais ei difetha.

Mae disgwyl y bydd y canlyniad yn rhyddhad i Boris Johnson gan fod amryw o’i gefnogwyr yn credu y bydd Jeremy Hunt yn wrthwynebydd haws i’w guro na Michael Gove. Mae’n debygol o arwain at amheuon pellach y gallai rhai o gefnogwyr Boris Johnson fod wedi pleidleisio dros Jeremy Hunt i’r perwyl hwn y pnawn yma.