Mae’r Canghellor Philip Hammond yn rhybuddio y byddai Brexit heb gytundeb yn taro arian cyhoeddus y wlad, yn niweidio’r economi ac yn arwain at wahanu gwledydd Prydain.

Fe fydd yn dweud hyn mewn araith yn Llundain heddiw (Dydd Iau, Mehefin 20) gan nodi fod angen “Plan B Brexit” ar ymgeiswyr arweinyddiaeth y Torïaid, gan awgrymu efallai bydd angen refferendwm arall i setlo’r sefyllfa.

Yn ôl Philip Hammond byddai’r £26.6bn o gyllid a all gael ei ddefnyddio i godi gwariant neu leihau treth, yn cael ei roi tuag at Brexit heb gytundeb.

“Ni allaf ddychmygu Llywodraeth Geidwadol sy’n cael ei harwain gan yr Unoliaethwyr fynd ar drywydd Brexit heb unrhyw fargen a bod yn barod i beryglu’r undeb a’n ffyniant economaidd,” dywed Philip Hammond.

Mae’r Canghellor yn honni byddai hyn yn cyflwyno’r risg o etholiad cyffredinol a all roi arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn Rhif 10.”

“Plan B”

Mae angen “Plan B” ar ymgeiswyr arweinyddiaeth y Torïaid fyddai’n llunio beth yn digwydd ar ôl Brexit, meddai Philip Hammond.

Ei gred yw na fyddai’r San Steffan yn caniatáu Brexit heb gytundeb – fel mae hi wedi gwneud yn barod yn gwrthwynebu Cytundeb Ymadael y Prif Weinidog Theresa May.

“Os na fydd modd cyflawni’ch cynllun A, mae peidio â chael cynllun B yn debyg i beidio â chael cynllun o gwbl,” meddai.

Tydi Philip Hammond heb ddatgelu pwy mae’n cefnogi fel arweinydd nesaf y Torïaid ond mae’n galw arnynt i “fod yn onest gyda’r cyhoedd.”