Mae llawfeddyg pen-glin yn cynghori pawb i gychwyn yn raddol wrth gymryd rhan mewn unrhyw fath o ymarfer corff, gan gynnwys cicio pêl yn y parc.

Ei awgrym yw dechrau gydag ymarferion hawdd i godi cyfradd y galon i sicrhau bod y cyhyrau yn derbyn digon o ocsigen i fod yn barod i weithio gan leihau’r siawns o gael anaf.

“Mae hyn yn cynnwys jigio ysgafn, seiclo, cerdded cyflym, a chwifio’r breichiau,” meddai Amir Qureshi.

“Yna dylid symud ymlaen i weithgareddau deinamig sy’n defnyddio’r cyhyrau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich camp gwneud camau mawrion sy’n cynnwys cerdded.”

“Gorffennwch y cynhesu gyda rhai driliau penodol i’r chwaraeon sy’n cael eu defnyddio mewn patrymau symud ynddi.”

Yn ôl Amir Qureshi dylai’r cyfnod cynhesu barhau am ugain munud i hanner awr.