Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei drywanu yng ngogledd Llundain, gan fynd ä nifer y llofruddiaethau i bump mewn chwe diwrnod yn y ddinas.

Cafodd yr heddlu eu galw i Welbeck Road yn Barnet am 10.50yh neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 18) ar ōl adroddiadau o gwffio.

Yn ôl Scotland Yard. roedd tri o ddynion wedi cael eu trywanu ac wedi mynd i’r ysbyty, ble bu farw un ohonyn nhw.

Fe ddaw yn dilyn tair llofruddiaeth o fewn 24 awr.