Mae’r dirprwy arweinydd Llafur Tom Watson wedi datgan y dylai’r blaid gefnogi ail refferendwm Brexit.

Mewn neges fideo cyn iddo gyflwyno araith i’r Ganolfan Diwygio Ewrop, dywedodd Tom Watson bod yn rhaid i’r cyhoedd fod yn rhan o’r penderfyniad a bod yn “rhaid i ni ddadlau’n frwd o blaid aros [yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd]”.

“Does dim rhaid i Brexit fod yn rhan o’n dyfodol ni. Mi allwn ni newid y dyfodol. Fe allwn ni roi Prydain yn ôl wrth galon Ewrop unwaith eto,” meddai.