Mae Boris Johnson wedi cael hwb i’w ymgyrch am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ar ôl i’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock ddatgan ei gefnogaeth ar ôl iddo ef dynnu allan o’r ras wythnos ddiwethaf.

Er iddo ddiystyru Brexit heb gytundeb yn ystod ei ymgyrch, mae Matt Hancock bellach yn dweud mai Boris Johnson yw’r ymgeisydd orau i uno’r Blaid Geidwadol.

Daeth ei gefnogaeth ar ôl i’r ceffyl blaen yn y ras gael ei feirniadu am beidio cymryd rhan yn y ddadl deledu gyntaf ar Channel 4 nos Sul. Mae e hefyd wedi gwrthod cymryd rhan mewn hystings ddydd Llun (Mehefin 17) sydd wedi cael eu trefnu gan newyddiadurwyr gwleidyddol yn San Steffan.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Tramor wedi dweud y bydd yn cymryd rhan yn nadl y BBC ddydd Mawrth (Mehefin 18) ar ôl yr ail rownd o bleidleisio pan fydd nifer yr ymgeiswyr wedi gostwng ymhellach.

Dros y penwythnos cafodd Boris Johnson gefnogaeth hefyd gan y cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Esther McVey ar ôl iddi hi golli yn rownd gyntaf y gystadleuaeth i olynu Theresa May. Ond nid yw’n glir a fydd yr 20 Aelod Seneddol a oedd wedi cefnogi Matt Hancock bellach yn taflu eu pwysau y tu ôl i Boris Johnson.

Roedd yr Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt, y cyn-Ysgrifennydd Brexit Dominic Raab, yr Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Rory Stewart, a’r Ysgrifennydd Amgylchedd Michael Gove wedi cymryd rhan yn y ddadl deledu neithiwr (nos Sul, Mehefin 16).