Mae Extinction Rebellion (XR) wedi penderfynu gohirio protest yn erbyn llain lanio newydd ym maes awyr Heathrow.

Roedden nhw wedi bwriadu cynnal protest pe na bai Llywodraeth Prydain yn gwneud tro pedol ynghylch trydedd llain lanio.

Er i’r brotest gael ei chanslo, mae’r mudiad yn dweud eu bod nhw wedi cynllunio’r cam nesaf pe bai’r cynlluniau’n cael eu hatgyfodi yn y dyfodol.

Roedd pryderon y byddai cryn oedi i deithwyr pe bai’r protestiadau’n mynd yn eu blaenau dros fisoedd prysur yr haf.

Mae’r mudiad wedi wfftio’r awgrym fod eu protestiada’n peryglu bywydau, ar ôl iddi dod i’r amlwg eu bod wedi paratoi i hedfan dronau.