Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o bobl ym Mhrydain sy’n berchnogion ail gartrefi, tai i’w gosod neu eiddo tramor.

Yn ôl astudiaeth o dan nawdd Sefydliad Nuffield, mae’r niferoedd o bobl sydd ag eiddo ychwanegol yn cyfrif am fwy nag un o bob 10 o’r boblogaeth bellach.

Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o dros 50% ers 2001, gyda chyfanswm gwerth yr eiddo ychwanegol hwnnw hefyd wedi codi o £610 biliwn i £941 biliwn.

“Mae cyfoeth y rhai sydd â mwy nag un eiddo wedi tyfu’n gyflym dros y ddau ddegawd diwethaf,” meddai’r dadansoddwr polisi George Bangham a fu’n ymwneud â’r ymchwil.

“Er bod pobl ifanc yn enwedig yn llai tebygol o fod yn berchen ar gartref na chenedlaethau blaenorol, mae’r rheini sy’n berchnogion yn dueddol o fod â mwy nag un eiddo.

“Mae graddfa sylweddol cyfoeth eiddo ychwanegol yn cyfrif am wahaniaethau cynyddol mewn cyfoeth ledled Prydain.

“Wrth i’r stoc anferthol o ail gartrefi, tai ar osod ac eiddo tramor gael ei drosglwyddo i genedlaethau iau, mae Prydain mewn perygl o ddod yn wlad lle mae symud ymlaen mewn bywyd yn dibynnu gymaint ar faint ydych chi’n ei etifeddu ag faint ydych yn ei ennill.”