Mae Nigel Farage wedi cyhuddo’r ddigrifwraig Jo Brand o annog trais yn dilyn sylwadau a wnaeth yn ystod sioe ar BBC Radio 4.

Roedd y ddigrifwraig 61 oed, yn ymddangos ar Victoria Coren Mitchell’s Heresy nos Fawrth (Mehefin 11) ac yn tynnu coes am daflu asid batri at wleidyddion.

Mewn ymateb i gwestiwn am gyflwr gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, meddai: “Wel, ie, fe fyddwn i’n dweud hynny ond mae hynny oherwydd bod rhai cymeriadau annymunol yn cael eu taflu i’r amlwg ac maen nhw’n hawdd iawn i’w casáu nhw, a dw i’n meddwl, ‘Pam trafferthu gydag ysgytlaeth pan allech chi gael rhywfaint o asid batri?

“Dim ond fi yw hwnnw. Dydw i ddim yn mynd i wneud hynny, ffantasi yn unig yw e, ond rwy’n credu bod ysgytlaeth yn druenus, mae’n ddrwg gen i…”

Trydar

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter heddiw (dydd Mercher, Mehefin 12) fe gcyhuddodd Nigel Farage, arweinydd y Brexit Party, Jo Brand o annog trais.

“Mae hyn yn annog trais ac mae angen i’r heddlu weithredu,” meddai.

Y mis diwethaf, cafodd Nigel Farage ei orchuddio gydag ysgytlaeth wrth ymgyrchu yng nghanol dinas Newcastle.