Mae tlodi yn effeithio ar un o bob pump o blant yng ngwledydd Prydain, yn ôl canlyniadau astudiaeth newydd.

Er mai dim ond am ran o’u plentyndod y mae rhai plant yn profi tlodi, mae un o bob pump yn byw gyda’i effeithiau nes eu bod yn 14 oed, o leiaf.

Mae’r adrodfiad wedi’i seilio at ddata ar gyfer 10,652 o blant a gymerodd ran yn Astudiaeth Carfan y Mileniwm.

Cafodd yr holl blant eu geni yng ngwledydd Prydain rhwng mis Medi 2000 a mis Ionawr 2002, a’u dilyn gan atbenigwyr a oedd yn cofnodi eu hynt a’u helynt yn naw mis oed, yn dair oed, yn bump, yn saith, 11 a 14 oed.

Diffiniwyd tlodi fel 60% o incwm cyfartalog y cartref.

O’r grŵp cyfan, nid oedd 62.4% o’r plant erioed wedi byw mewn tlodi; roedd 13.4% mewn tlodi adeg plentyndod cynnar; 5% yn hwyrach yn eu plentyndod; ac roedd 19.4% mewn tlodi o’u genedigaeth hyd at o leiaf 14 oed.

O gymharu â phlant nad oedd erioed wedi profi tlodi, roedd y rheiny mewn tlodi parhaus dair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl.

Maen nhw hefyd 1.5 gwaith yn fwy tebygol o fod yn ordew, a bron ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef salwch hirdymor.