Mae teuluoedd y bobol gafodd eu lladd yn y tân ym mloc o fflariau Grenfell yn Llundain, ynghyd â rhai o’r rheiny ddaeth o’r tân yn fyw, wedi cadarnhau eu bod yn mynd â thri chwmni i gyfraith.

Maen nhw’n dweud bod y tri chwmni yn gyfrifol am y tân a laddodd fwy na 70 o bobol.

Mae achos ’marwolaeth anghyfiawn’ wedi’i gofrestru heddiw (Mehefin 11) yn yr Unol Daleithiau, a hynny gan gyfreithwyr ychydig dros 200 o bobol.

Mae’r cwmnïau – Arconic, Celotex a Whirlpool – ill tri â’u pencadlys yn America, ac maen nhw’n cael eu henwi yn y ddogfen gyfreithiol sy’n rhestru 143 o gwynion a chyhuddiadau yn eu herbyn.

Arconic oedd yn gyfrifol am y cladin ar du allan yr adeilad yn North Kensington; Celotex oedd wedi darparu’r insiwleiddio ar gyfer y system gladin; a Whirlpool oedd cynhyrchydd y rhewgell lle y cynheuodd y tân.

Mae cyfreithwyr o ddau gwmni yn yr Unol Daleithiau yn dweud eu bod wedi galw am achos trwy reithgor yn Philadelphia, gyda’r nod o ennill iawndal ac arian i wneud yn iawn am golledion a difrol, ar ran 247 o bobol.