Mae canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, yn dweud nad yw erioed wedi cymryd cyffuriau dosbarth A ac na fyddai “eisiau” arbrofi chwaith.

Mae’n gwneud ei sylwadau wedi i’r ras am arweinyddiaeth y blaid Dorïaidd dynnu sylw at y defnydd o cocên.

“Dw i’n blentyn dosbarth gweithiol, allwn i byth fforddio cyffuriau dosbarth A ac ni fyddwn i eisiau hynny,” meddai.

“Dw i’n mwynhau gwylio’r Torïaid yn brwydro’i gilydd i ddod yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig.

“Mae addewidion Boris Johnson dros dreth y tu hwnt i weithwyr sy’n ennill mwy na £50,000. Dydi o ddim yn cymryd llawer i mi chwalu cynigion Boris Johnson tros hynny, mae’r rhan fwyaf o’r cystadleuwyr arweinyddiaeth eraill wedi gwneud hynny…”

A phan ofynnwyd iddo pa ymgeisydd fyddai fwyaf tebygol o roi stop ar arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, ei ateb oedd “Dim un ohonyn nhw”.