Mae’r ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol wedi cael ei disgrifio’n “sioe arswyd” gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Daw ei sylwadau ar ôl i Boris Johnson, y ffefryn i olynu Theresa May, addo y byddai’n torri’r dreth incwm ar gyfer y rheiny sydd ar gyflogau uchel os bydd yn dod yn Brif Weinidog.

Yn ôl cynlluniau’r cyn-Ysgrifennydd Tramor, bydd yn rhaid i unigolyn ennill dros £80,000 y flwyddyn cyn y bydd yn rhaid talu 40% i’r dyn treth. O dan y drefn bresennol, mae’n rhaid ennill dros £50,000.

Ni fydd y newid yn berthnasol ar gyfer trethdalwyr yr Alban, gan fod y rheolaeth tros drethi yn nwylo Holyrood.

Ond mae yna bryder yn yr Alban gan y byddai’n cael ei ariannu’n rhannol drwy gyfrwng taliadau yswiriant cenedlaethol, sydd o dan reolaeth San Steffan.

“Dyna sioe arswyd yw’r gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol,” meddai Nicola Sturgeon ar y wefan gymdeithasol, Twitter.

“Toriadau mewn trethi i’r cyfoethog, ymosodiadau ar hawliau erthylu, rhagrith ar gyffuriau a dryswch ynghylch Brexit. Mae’r lliwiau go iawn yn cael eu dangos.”