Wrth i’r gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ddechrau’n swyddogol heddiw, mae disgwyl i wrthwynebwyr Boris Johnson bwysleisio bod angen arweinydd “difrifol”.

Y cyn-ysgrifennydd tramor yw’r ffefryn i olynu Theresa May a’r prif ffocws yn San Steffan yw penderfynu pwy fydd yn ei herio pan fydd nifer yr ymgeiswyr yn gostwng i ddau wythnos nesaf.

Jeremy Hunt a Michael Gove yw’r ddau Aelod Seneddol sy’n cael eu gweld fel y ceffylau blaen i herio Boris Johnson ac fe fyddan nhw’n lansio eu hymgyrchoedd heddiw (dydd Llun, Mehefin 10).

Mae Boris Johnson wedi dweud y bydd yn codi’r trothwy treth incwm i £80,000 ar gost o bron i £10 biliwn. Ar hyn o bryd mae’r trothwy yn £50,000 yn Lloegr. Mae e hefyd wedi sicrhau cefnogaeth Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.

Mae disgwyl i Michael Gove geisio dwyn perswâd ar Aelodau Seneddol Ceidwadol mai ef yw’r “arweinydd difrifol” sydd ei angen, a hynny er gwaetha’r ffaith ei fod wedi cyfaddef defnyddio cocên yn y gorffennol.

Fe fydd yn dweud y gallai ddelifro Brexit ac “atal Jeremy Corbyn rhag cael yr allweddi i Downing Street.”

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock a’r cyn-ysgrifennydd Brexit Dominic Raab gynnal digwyddiadau i lansio eu hymgyrchoedd heddiw hefyd.

Mae’r ymgeiswyr angen cefnogaeth gan wyth Aelod Seneddol Ceidwadol er mwyn ymuno a’r ras.