Fe wnaeth Chuka Umunna “gamgymeriad mawr” wrth adael plaid Change UK, yn ôl yr arweinydd Anna Soubry.

Roed yn un o chwe aelod seneddol i adael y blaid ddydd Mawrth (Mehefin 4), gan adael dim ond pum aelod seneddol yn y blaid.

“Bydda i bob amser yn fwy trist nag y gallwch chi ei ddychmygu nad yw Chuka gyda ni rhagor,” meddai wrth y Guardian.

“Dw i’n credu ei fod e’n ddyn a chanddo allu a doniau enfawr, a dw i’n credu ei fod e wedi gwneud camgymeriad difrifol iawn.”

Mae hi’n dweud y gallai fod yn brif weinidog yn y dyfodol, ond mynegodd ei siom nad oedd e o’r farn y dylai’r blaid barhau.

Ymadawiadau

Y rhai eraill sydd wedi gadael erbyn hyn yw’r cyn-arweinydd Heidi Allen, Sarah Woollaston, Luciana Berger, Gavin Shuker ac Angela Smith.

Mae’r pump sydd ar ôl – Anna Soubry, Chris Leslie, Joan Ryan, Mike Gapes ac Ann Coffey – yn bwriadu aros yn aelodau seneddol annibynnol.

Cafodd ei sefydlu gan griw o aelodau seneddol annibynnol oedd wedi gadael Llafur a’r Ceidwadwyr.