Mae Nigel Farage wedi cyflwyno llythyr i Downing Street yn mynnu ei fod yn cael bod yn rhan o drafodaethau Brexit.

Yn y llythyr mae Arweinydd Plaid Brexit yn honni bod “pleidleiswyr wedi galw arnom i fod y rhan o’r tîm trafod” a’i fod yn “barod i wneud hynny yn syth”.

Ar ôl cyflwyno’r llythyr i staff diogelwch Downing Street, wfftiodd yr honiad mai plaid brotest yw’r Brexit Party.

“Mae’r Llywodraeth yn treulio’i holl amser yn ceisio dyfalu pwy fydd y Prif Weinidog nesaf,” meddai “Dim ond pump mis sydd i fynd tan y byddwn yn gadael. Hoffwn ddechrau helpu yn awr.

“Dyma ni yn dweud wrthoch chi: ‘Dydyn ni ddim yn blaid protest. A dweud y gwir, rydym ni eisiau cyfrifoldeb. Rydym eisiau bod yn rhan o hyn.’”