Mae’r Blaid Lafur wedi curo Plaid Brexit o drwch blewyn mewn is-etholiad yn nwyrain Lloegr.
Dim ond 683 yn fwy o bobol wnaeth bleidleisio dros y Blaid Lafur yn Peterborough, ac fe ddaeth y Ceidwadwyr yn drydydd.
Cafodd y Brexit Party ei sefydlu lai na dau fis yn ôl, ac ar hyn o bryd does neb yn cynrychioli’r blaid yn Nhŷ’r Cyffredin.
Pleidleisiodd 60.9% o’r etholaeth o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016, ac roedd peth ansicrwydd ynglŷn â gobeithion y Blaid Lafur.
O gymharu ag etholiad cyffredinol 2017, mae canran y Blaid Lafur o’r bleidlais wedi disgyn gan 17% tra bod canran y Ceidwadwyr wedi disgyn 25%.
“Gwthio i’r cyrion”
Mae’r canlyniad yn dangos bod y cyhoedd wedi blino â sut mae Llywodraeth San Steffan yn delio â Brexit, yn ôl Jeremy Corbyn.
“Yn y sedd allweddol yma, mae’r Ceidwadwyr wedi cael eu gwthio i’r cyrion,” meddai Arweinydd y Blaid Lafur.
“Er gwaetha’r holltau tros Brexit, mae’r canlyniad yma yn dangos bod yna gefnogaeth gref ledled y wlad tuag at [gynlluniau] Llafur.”
Cynrychiolwyr
Yn ei hanerchiad dywedodd yr ymgeisydd buddugol, Lisa Forbes, bod y canlyniad yn dangos na fydd “gwleidyddiaeth” Plaid Brexit yn llwyddo yn y pen draw.
Cafodd yr isetholiad ei gynnal ar ôl i’r Aelod Seneddol, Fiona Onasanya, gamu o’r neilltu yn sgil trosedd yrru – cafodd ei charcharu am ddweud celwydd am y drosedd.
Roedd wedi cael ei hethol yn Aelod Seneddol Llafur, a chafodd ei gwahardd o’r blaid ar ôl iddi dderbyn ei dedfryd.
Canlyniadau
- Llafur: 10,484
- Plaid Brexit: 9,801
- Ceidwadwyr: 7,243
- Democratiaid Rhyddfrydol: 4,159
- Y Blaid Werdd: 1,035