Mae disgwyl i UKIP ddewis arweinydd newydd ar ôl i Gerard Batten gyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu ddoe (dydd Sul, Mehefin 2).

Y dyddiad ar gyfer dewis yr un newydd fydd Awst 10.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Gerard am ei wasanaeth teyrngar i’r blaid a rydyn ni’n disgwyl cyhoeddi pwy fydd ein harweinydd newydd ar ddechrau mis Awst,” meddai Cadeirydd UKIP, Kirstan Herriot.

Cafodd Gerard Batten ei ethol yn ddiwrthwynebiad i’r arweinyddiaeth 16 mis yn ôl yn dilyn ymddiswyddiad y cyn-arweinydd, Henry Bolton.