Mae addolwyr mewn mosg yn Llundain wedi atal dyn ar ôl adroddiadau ei fod wedi ceisio ymosod ar bobol gyda morthwyl.

Cafodd Heddlu’r Met eu galw i’r mosg yn Southall yn oriau man y bore heddiw (Dydd Llun, Mehefin 3).

Roedden nhw wedi derbyn adroddiadau bod dyn, 38, wedi cyrraedd gyda morthwyl ychydig ar ôl 4.30 y bore.

Mae’r dyn wedi cael ai arestio ar amheuaeth o geisio achosi niwed corfforol difrifol ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu ac nid yw’r digwyddiad yn cael ei drin fel achos o frawychiaeth.