Mae o leiaf chwech o bobol o wledydd Prydain wedi cael eu harestio gan yr heddlu yn Sbaen.

Mae miloedd o bobol wedi teithio i’r wlad ar gyfer ffeinal cystadleuaeth bêl-droed Cynghrair y Pencampwyr, wrth i Lerpwl guro Spurs ym Madrid neithiwr.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u harestio mae dyn 33 oed, sydd wedi’i arestio ar amheuaeth o gyflawni gweithred ryw mewn lle cyhoeddus.

Cafodd ei arestio’n ddiweddarach hefyd ar amheuaeth o ymosod ar Eidales.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau manylion y rhai sydd wedi cael eu harestio, ond mae lle i gredu bod rhai ohonyn nhw wedi ymosod ar yr heddlu, a bod gan eraill gyffuriau yn eu meddiant.

Dywedodd yr heddlu cyn y gêm y bydden nhw hefyd yn gweithredu yn erbyn unrhyw un oedd yn ceisio cael mynediad i’r gêm heb docynnau dilys.